Lansio canllawiau hyfforddi ar gyfer cartrefi gofal
Heddiw gwelir lansio’r set gyntaf erioed o ganllawiau hyfforddi ar gyfer staff cartrefi gofal yng Nghymru,- canllawiau a gafodd eu llunio gyda help preswylwyr cartrefi gofal, eu perthnasau a staff.
Mae rhaglen ‘Fy Mywyd Mewn Cartref’ Age Cymru, wedi cyhoeddi wyth ‘Canllaw arfer da’ i helpu i wella bywydau pobl sy’n ymwneud â chartrefi gofal.
Fel y mae’r Rheolwr Rhaglen, John Moore yn egluro:
Diben y rhaglen ‘”Fy Mywyd Mewn Cartref” yw gwneud bywyd yn well i breswylwyr, ymwelwyr neu weithwyr mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Rydym wedi gweithio’n agos gyda 38 o gartrefi gofal ledled Cymru dros y tair blynedd ddiwethaf er mwyn adnabod y pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd o ddydd i ddydd preswylwyr, perthnasau a staff y cartrefi hynny. Rydym wedi trafod nifer o faterion gyda llawer o bobl, gan ddysgu llawer am y gwaith da sy’n digwydd mewn cartrefi gofal ledled Cymru, ac wedi cynnwys yr holl wybodaeth yn yr wyth ‘Canllaw arfer da’ sy’n cael eu lansio heddiw.
Cafodd y ‘Canllawiau arfer da’ eu hysgrifennu er mwyn ysbrydoli trafodaethau staff ar faterion yn amrywio o gynnwys pawb mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd preswylwyr; datblygu synnwyr o gymuned mewn cartrefi gofal, i farwolaeth a marw a materion eraill.
Mae Imelda Richardson, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn lansio’r ‘Canllawiau arfer da’ heddiw (Dydd Mawrth 17 Ionawr) yn ystod Diwrnod Rhwydweithio Cenedlaethol ‘Fy Mywyd Mewn Cartref’ yng Nghanolfan Adnoddau’r Cyfryngau yn Llandrindod.
Meddai Imelda Richardson:
Rôl AGGCC yw annog gwelliannau i ofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol drwy reoleiddio, arolygu ac adolygu gwasanaethau, gan gynnwys cartrefi gofal i oedolion. Rydym yn ymroi i gynnwys pobl sy’n defnyddio gwasanaethau a rhai sydd â diddordeb mewn gwasanaethau i wneud yn siŵr bod ein harolygiadau a’n hadolygiadau wedi’u cynllunio mewn partneriaeth, gan weithio gyda phobl yn hytrach nag i bobl.
Cryfder rhaglen ‘Fy Mywyd Mewn Cartref’ Cymru yw ei bod yn mynd ati mewn modd rhagweithiol i ymgysylltu â phobl sy’n ymwneud â chartrefi gofal, drwy ymweld a siarad â nhw a thrwy wrando arnyn nhw.
Gyda lansio’r ‘Canllawiau arfer da’ mae rhaglen ‘Fy Mywyd Mewn Cartref’ yn parhau â’r dull arloesol hwn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn hybu ansawdd bywyd mewn cartrefi gofal.
Rwy’n hyderus y bydd y canllawiau hyfforddi newydd hyn yn mynd â’r etifeddiaeth hon yn ei blaen ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i breswylwyr cartrefi gofal, eu perthnasau ac i staff ledled Cymru.
Yr wyth ‘Canllaw arfer da’ yw :
-
Cynnal hunaniaeth mewn amgylchedd cartref gofal;
-
Rhannu penderfyniadau mewn cartrefi gofal;
-
Creu cymuned;
-
Rheoli’r pontio i gartref gofal;
-
Gwella iechyd a gofal iechyd;
-
Cefnogi gofal da ar ddiwedd oes;
-
Hybu diwylliant cadarnhaol;
-
Cadw’r gweithlu’n addas i’r diben;
I gael mwy o wybodaeth am Fy Mywyd Mewn Cartref Cymru, ewch i www.agecymru.org.uk/mhlc
