Adroddiad ar y Cyd gan AGIC ac AGGCC ar y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
Mae gwneud penderfyniadau drosom ein hunain yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, ond dan rai amgylchiadau, gellid tynnu’r hawl honno oddi wrthym er ein diogelwch ein hunain. Mae’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (y Trefniadau Diogelu) yn darparu fframwaith cyfreithiol i’n hamddiffyn os yw hyn yn digwydd. Maent yn darparu diogelwch ar gyfer pobl heb alluedd meddyliol sydd yn
yr ysbyty neu mewn cartrefi gofal.
Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), sy’n gyfrifol am fonitro’r defnydd o’r Trefniadau Diogelu ar draws Cymru, wedi cyhoeddi’r canfyddiadau a gododd o’r ail flwyddyn o fonitro mewn adroddiad blynyddol ar y cyd.
Meddai Imelda Richardson, Prif Arolygydd AGGCC:
Cafwyd y nifer fwyaf o awdurdodiadau ar gyfer colli rhyddid mewn cartrefi gofal, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â menywod hŷn. Mae mwy o gartrefi gofal wedi defnyddio’r Trefniadau Diogelu eleni, ac mae hyn yn awgrymu y gwnaed cynnydd o ran gwella dealltwriaeth staff. Er bod y niferoedd yn gymharol fychan, rydym wedi canfod unwaith eto nad yw pobl mewn cartrefi gofal a’u teuluoedd yn gwybod digon am eu hawliau, ac mae angen gwneud mwy i fynd i’r afael â hyn.
Wrth siarad am leoliadau ysbyty, ychwanegodd y Dr Peter Higson, Prif Weithredwr AGIC:
Mae hawliau dynol unigolion wrth wraidd y Trefniadau Diogelu hyn. Maent yn sicrhau y gwneir penderfyniadau ynglŷn ag amddifadu rhywun o’i ryddid mewn modd tryloyw, ac y cynorthwyir y rhai hynny sy’n ddarostyngedig i’r Trefniadau Diogelu a’u gofalwyr a’u perthnasau i herio’r penderfyniadau hynny.
Mae analluedd meddyliol yn gallu digwydd dan amrywiaeth o amgylchiadau. Nod y Trefniadau Diogelu yw amddiffyn unigolion, a rhoi cymorth i weithwyr proffesiynol ym maes meddygaeth a gofal i benderfynu pa un ai amddifadu rhywun o’i ryddid yw’r unig ffordd o ofalu’n ddiogel amdano.
