Skip to content

Strategaeth Ymgysylltu AGGCC - Dogfen Ymgynghori

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Strategaeth Ymgysylltu AGGCC - Dogfen Ymgynghori

AGGCC yn cyhoeddi strategaeth cyhoeddiadau

Bydd y strategaeth ymgysylltu hon yn arwain y ffordd rydym yn cadw mewn cysylltiad â defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, darpar ddefnyddwyr, darparwyr a chomisiynwyr er mwyn gwneud yn siwˆr bod defnyddwyr a gofalwyr yn ganolog i’n gwaith.

Rydym yn amlinellu’r modd y byddwn yn annog a hybu ymgysylltu â defnyddwyr fel sbardun allweddol i wella ansawdd. Daw cyfranogi yn rhan annatod o’r ffordd rydym yn cyfathrebu â defnyddwyr a gofalwyr, ac yn eu cynnwys ac yn ystyried eu safbwyntiau.

Drwy’r strategaeth hon byddwn yn gosod nodau realistig ar gyfer ymgysylltu, a fydd yn goleuo ein sefyllfa bresennol ac yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn cysylltu’n agos â’n hagenda foderneiddio wrth i ni geisio sicrhau bod barn defnyddwyr a gofalwyr yn dylanwadu’r ffordd rydym yn cynllunio a darparu ein gwasanaethau.

Byddwn yn adrodd ar ein gweithgareddau ymgysylltu drwy ein dulliau adrodd blynyddol ac yn rheolaidd drwy gyfrwng ein gwefan a’n cylchlythyrau.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 4 Ionawr 2012; os ydych yn dymuno gwneud sylwadau, gwnewch hynny cyn y dyddiad hwn, os gwelwch yn dda.

Dolenni perthnasol

Rydym yn dymuno clywed oddi wrthych ynglŷn â sut yr ydych eisiau bod yn rhan o waith AGGCC.