Heneiddio fel y mynnaf: Adolygiad o effaith y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru
Mae angen i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol weithio’n well gyda’i gilydd a chyda phartneriaid eraill er mwyn newid pwyslais gofal i gyfeiriad hybu iechyd a lles, atal salwch a grymuso pobl hŷn yng Nghymru.
Dyma yw’r neges sydd mewn adroddiad ar y cyd a gyhoeddwyd heddiw. Mae Heneiddio fel y mynnaf: Adolygiad o effaith y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru yn nodi canfyddiadau adolygiad ar y cyd a gynhaliwyd gan ddwy arolygiaeth – Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).
Gan ganolbwyntio ar wasanaethau i bobl hŷn o safbwynt rhywun sydd â dementia, daeth yr adolygiad i’r casgliad fod y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol wedi cael effaith yng Nghymru. Ynghyd â strategaethau cysylltiedig, a swyddogaeth y Comisiynydd Pobl Hŷn, mae wedi codi proffil y gwasanaethau y mae pobl hŷn yn eu derbyn yng Nghymru, ac wedi amlygu’r angen iddynt gael eu trin fel unigolion a heb wahaniaethu yn eu herbyn.
Nodwyd yn yr adroddiad hefyd bod nifer o wasanaethau a dulliau cefnogi arloesol a gwerthfawr wedi eu rhoi ar waith ledled Cymru ar gyfer pobl hŷn. Er enghraifft:
- Dosbarthiadau ymarfer corff a gweithgareddau
- Clybiau cinio
- Gwasanaethau siopa a danfon ar y Rhyngrwyd, megis y Prosiect Datrysiadau Bwyd yn Sir y Fflint
- Hysbysebion teledu, megis yr hysbyseb FAST ynglŷn â strôc
Fodd bynnag, canfu’r adroddiad y canlynol hefyd:
- Mae angen canolbwyntio mwy, ar lefel leol, ar wasanaethau cymunedol a gwasanaethau hybu iechyd ac atal salwch os ydym am gynorthwyo a chefnogi pobl i fyw bywydau iach a hirach.
- Mae pobl hŷn ag anghenion cymhleth yn aml yn cael eu hanfon i’r ysbyty, er mai dyma’r lle olaf y dylai llawer ohonynt fod ynddo, mewn gwirionedd.
- Mae pobl hŷn yn aml yn treulio gormod o amser yn yr ysbyty ar ôl cael eu derbyn, ac mae hyn yn effeithio ar eu hannibyniaeth a’u hyder.
Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio ar bryderon parhaus ynglŷn ag agweddau sylfaenol ar ofal, urddas a pharch sy’n hollbwysig i unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Nodwyd llawer o’r agweddau hyn hefyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ei hadroddiad cynharach ‘Gofal Gydag Urddas?’
Meddai Peter Higson, Prif Weithredwr AGIC, gan siarad ar ran y ddwy arolygiaeth:
Canfuwyd sawl enghraifft o wasanaethau arloesol a gwerthfawr ledled Cymru ar gyfer pobl hŷn. Fodd bynnag, nid yw’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol wedi ei weithredu’n llawn hyd yma, ac ni chaiff y buddiannau a ddaw yn ei sgil eu gwireddu am beth amser, ac mae gan sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol fwy o waith i’w wneud ar newid pwyslais eu dull gwaith a’u hagenda i un o rymuso ac atal salwch. Yr hyn sydd angen ei wneud yw sicrhau bod y gwasanaeth iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau’r drydedd sector yn canolbwyntio gyda’i gilydd ar gyflawni mwy o newidiadau a gwelliannau er lles yr holl bobl hŷn yng Nghymru.
Mae AGGCC ac AGIC yn bwriadu gweithio’n agos gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn a’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned i wneud gwaith dilynol ar ganfyddiadau’r adroddiad a helpu i ysgogi’r gwelliant sydd ei angen mewn gwasanaethau i Bobl Hŷn yng Nghymru.
Meddai Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
-
Mae’n gwneud synnwyr bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio’n agos gyda’i gilydd. Mae pobl hŷn yn dweud wrtha i yn aml bod gweithio mewn partneriaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw. Mae’r adroddiad hwn wedi amlygu materion pwysig i bobl hŷn o ran derbyn gwasanaethau, a byddaf yn parhau i fonitro’n ofalus yr hyn a gyflawnir er mwyn gwneud yn siŵr y rhoddir sylw i’r materion hyn.
