Cydweithio: dyfodol arolygu ac archwilio yng Nghymru
Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn lansio'r wefan Arolygu Cymru, er mwyn helpu aelodau o'r cyhoedd a'r sefydliadau y maent yn eu harchwilio a'u hadolygu i ddeall yn well sut maent yn cydweithio â'i gilydd.
Sefydlwyd y wefan yn dilyn y cytundeb strategol a lansiwyd gan y pedair arolygiaeth ym mis Mawrth 2011 i roi hwb i drefniadau cydweithio.
Y nod yw y bydd y wefan yn un pwynt cyswllt i ddinasyddion sydd am wybod mwy am sut mae cyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio yn cydweithio i ddarparu mwy o sicrwydd cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y rhai sy'n ymweld â'r wefan yn gallu dilyn dolenni i adroddiadau ar y cyd a gyhoeddwyd gan y cyrff, gan gynnwys yr adroddiad a gyhoeddwyd wythnos ddiwethaf gan Estyn, AGGCC, AGIC, Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (ACEM), sef Joint Inspection of local safeguarding children's boards in Wales.
Caiff y wefan ei datblygu'n barhaus ar y cyd gan staff y prosiect a benodwyd i helpu i ddatblygu trefniadau cydweithio rhwng y pedwar sefydliad, a thimau cyfathrebu pob un o'r sefydliadau.
Dywedodd llefarydd ar ran y pedwar sefydliad:
Mae lansiad gwefan Arolygu Cymru yn adeiladu ar ymrwymiad y pedwar corff arolygu, archwilio a rheoleiddio yng Nghymru i roi hwb i drefniadau cydweithio. Mae'n ffynhonnell o wybodaeth i ddinasyddion sy'n egluro sut mae'r sefydliadau yn cydweithio, beth maent yn cydweithio arno, a sut mae eu cydweithio yn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Laura Young ar 029 2032 0519 neu anfonwch e-bost at Laura.Young@wao.gov.uk
