Cyhoeddi Cydymchwiliad gan AGGCC ac Estyn Yng Nghyngor Sir Benfro
Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu methiant Cyngor Sir Benfro i ddiogelu ac amddiffyn plant yn iawn yn ei wasanaethau addysg. Cafodd hyn ei ddatgelu drwy’r cydymchwiliad gan AGGCC ac Estyn.
Dywedodd llefarydd ar ran AGGCC ac Estyn:
Rhaid i ddiogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc fod o’r pwys mwyaf ac mae’r neges honno’n glir.
Bu hwn yn ymchwiliad cymhleth ac rydym wedi gweithio’n agos gyda’r asiantaethau sy’n bartneriaid i ni er mwyn darganfod y ffeithiau. Mae’r adroddiad ar y cyd yn egluro’n canfyddiadau, sydd eisoes wedi cael eu rhannu gyda’r awdurdod lleol. Roedd rhai o’r methiannau, yr ydym yn rhoi tystiolaeth ohonynt yn ein hadroddiad ar y cyd, yn bethau na wyddai’r awdurdod lleol ddim amdanynt hyd nes i’r ddwy arolygiaeth dynnu ei sylw atynt.
Bydd AGGCC ac Estyn yn parhau i gydweithio gydag arolygiaethau eraill, gan gynnwys AGIC, Arolygydd Heddlu Ei Mawrhydi, Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill. Gyda’n gilydd byddwn yn parhau, lle bo angen, i ofyn am sicrwydd gan Gyngor Sir Benfro ynghylch y materion diogelu ac amddiffyn plant presennol. Byddwn hefyd yn cymryd camau fel y bo’n angenrheidiol i ddelio â’r rhain. Mae cydadolygiad ar wahân o’r trefniadau rhyngasiantaethol ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant yn Sir Benfro wrthi’n cael ei gynnal gydag arolygiaethau eraill. Bydd yr arolygiaethau’n ymgymryd â gwaith monitro ac arolygu pellach yn Sir Benfro er mwyn cael gwybod pa gynnydd y mae’r awdurdod yn ei wneud o ran mynd i’r afael â’r materion hyn a byddant yn adrodd am ganfyddiadau yn y dyfodol wrth Weinidogion Llywodraeth Cymru.
