Skip to content

Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol yn Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar Gyflwr Dalfeydd Yn y du: Yr Hyn a Gyflawnwyd

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol yn Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar Gyflwr Dalfeydd Yn y du: Yr Hyn a Gyflawnwyd

Cyhoeddir ail adroddiad blynyddol Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol y DU heddiw, ac mae’n rhoi darlun cyffredinol o gyflwr carchardai, dalfeydd yr heddlu, llety diogel i blant, a mannau lle caiff mewnfudwyr, aelodau o’r lluoedd arfog a chleifion iechyd meddwl eu cadw’n gaeth.

Mae’r Mecanwaith yn cynnwys 18 o gyrff annibynnol, a chaiff ei gydgysylltu gan Arolygiaeth Carchardai EM. Fe’i sefydlwyd yn 2009 gan lywodraeth y DU i gyflawni ei rhwymedigaethau dan gytuniad y Cenhedloedd Unedig ynglŷn â thriniaeth unrhyw un sy’n cael ei gadw mewn unrhyw fath o ddalfa. Dylai’r Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol fod â’r hawl i arolygu pob dalfa yn rheolaidd er mwyn monitro’r amodau ar gyfer y rhai a gedwir yno a’r driniaeth a roddir iddynt, gyda’r bwriad eglur o atal unrhyw un sydd wedi’i amddifadu o’i ryddid rhag cael ei gam-drin. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi gweithgareddau’r aelodau hynny.

Mae copi o’r adroddiad blynyddol ar gael ar wefan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi: www.justice.gov.uk/inspectorates/hmi-prisons