Skip to content

Rhaid i Asiantaethau yn Sir Benfro wella er mwyn diogelu ac amddiffyn plant

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Rhaid i Asiantaethau yn Sir Benfro wella er mwyn diogelu ac amddiffyn plant

Nid yw Asiantaethau yn Sir Benfro wedi gweithio’n effeithiol bob amser i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin gan weithwyr proffesiynol, ac mae’n rhaid gwneud gwelliannau. Dyna a gafodd ei gyhoeddi heddiw mewn adroddiad ar y cyd gan arolygiaethau.

Mae’r adroddiad, Cydadolygiad arolygiaethau o drefniadau ac ymarfer rhyngasiantaethol ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant yn Sir Benfro yn tynnu sylw at ddiffyg arweinyddiaeth strategol, a gyfrannodd at greu diwylliant lle’r oedd yn anodd i unrhyw un o’r asiantaethau unigol gyflawni eu cyfrifoldeb i ddiogelu ac amddiffyn plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin gan weithwyr proffesiynol.

Roedd pump o arolygiaethau’n gyfrifol am gynnal y cydadolygiad – Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Estyn (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru), ac Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP).

Yn sgil cyhoeddi cydymchwiliad gan AGGCC ac Estyn ym mis Awst, a oedd yn codi cwestiynau ynghylch ansawdd cydweithio i ddiogelu ac amddiffyn plant mewn gwasanaethau addysg, galwodd Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, am gydadolygiad o gyfraniad pob asiantaeth statudol yn Sir Benfro i amddiffyn plant. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar honiadau o gam-drin neu bryderon ynghylch pobl sy’n gweithio gyda phlant, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel cam-drin proffesiynol.

Yn ôl y cydadolygiad a gyhoeddwyd heddiw, mae angen i bob asiantaeth sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc wella’u trefniadau rheoli mewn ymateb i bob honiad o gam-drin proffesiynol.

Mae’r arolygwyr yn ystyried bod gan y Bwrdd Lleol Diogelu Plant (LSCB), o weithio’n well ac yn fwy effeithiol, rôl allweddol i’w chwarae o ran cynnig arweiniad, gweledigaeth, cynlluniau a goruchwyliaeth er mwyn cyflawni hyn.

Wrth siarad ar ran y pum arolygiaeth, dywedodd Imelda Richardson, Prif Arolygydd AGGCC:

Mae’r arolygiad wedi canfod at ei gilydd nad oedd yr ymateb amlasiantaethol i honiadau o gam-drin proffesiynol yn canolbwyntio digon ar y plentyn, ac rydym wedi nodi nifer o welliannau allweddol sydd angen eu gwneud. Mae hyn yn cadarnhau canfyddiadau’r adroddiad cyd-ymchwilio cynharach gan AGGCC ac Estyn mewn perthynas ag ymdrin â honiadau o gam-drin yn erbyn staff yn y gwasanaethau addysg. Fe nododd yr Arolygwyr rai ffactorau cadarnhaol hefyd - ac yn fwyaf nodedig, y parodrwydd i gydweithio ymysg rhai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol profiadol ac ymroddedig. Mae arnyn nhw angen cefnogaeth ac ymroddiad arweinwyr eu sefydliadau a Bwrdd Lleol Diogelu Plant Sir Benfro er mwyn gwella trefniadau diogelu plant yn Sir Benfro.

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau adolygiad ar y cyd o drefniadau ac arferion rhyngasiantaethol i ddiogelu ac amddiffyn plant yn Sir Benfro.