Skip to content

Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed Adroddiad Monitro 2009-2010

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed Adroddiad Monitro 2009-2010

Cyhoeddi Adroddiad ar Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed yng Nghymru

Heddiw y cyhoeddir adroddiad monitro blynyddol yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol  (AGGCC)  ar berfformiad  yr awdurdodau lleol yng Nghymru, o ran eu hymateb i honiadau o gam-drin oedolion.  Yr her i bob un o’r asiantaethau a enwir yn yr adroddiad  fydd datblygu ymagwedd fanwl a chadarn, a fydd yn sicrhau ymwybyddiaeth dda a chyson o’r perygl o gam-drin, a gwybod sut i ymateb er mwyn amddiffyn a diogelu pobl sy’n agored i niwed.
 
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at gynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau amddiffyn oedolion a gwblhawyd, ac yn nodi mai benywod hŷn, gan amlaf, oedd y rhai yr honnwyd iddynt gael eu cam-drin. Fel yn y gorffennol, roedd y mwyafrif o’r dioddefwyr honedig yn byw yn eu cartrefi eu hunain, ac ychydig dros draean o’r dioddefwyr  honedig oedd yn byw mewn cartrefi gofal pan atgyfeiriwyd  hwy i gael cymorth.

Roedd y rhan fwyaf o’r atgyfeiriadau ynghylch y posibilrwydd o gam-drin wedi eu gwneud gan asiantaeth y talwyd amdani gan y gwasanaethau cymdeithasol, gan reolwr gofal y gwasanaethau cymdeithasol, neu gan wasanaeth gofal cymdeithasol a ddarperid yn uniongyrchol gan yr awdurdod lleol. Mae hyn yn adlewyrchu’r rhan bwysig  a chwaraeir gan y staff o ran canfod achosion posibl o gam-drin.  
 
Dywedodd Imelda Richardson, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol  (AGGCC):

Mae amddiffyn pobl sy’n agored i niwed yn flaenoriaeth absoliwt. Y darparwyr gwasanaethau sy’n gyfrifol am fonitro ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, er mwyn gwneud yn sicr bod y  bobl sy’n eu defnyddio yn ddiogel. Mae AGGCC wedi  ymrwymo i fynd i’r afael ag unrhyw wasanaethau neu unrhyw ofal sydd  o ansawdd gwael, a rhoi pob  amlygrwydd i’r gwasanaethau y gwelir eu bod o ansawdd da.  

Mae’n bwysig darllen yr Adroddiad Monitro Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (AOAN) ochr yn ochr â thri adroddiad arall a baratowyd yn 2009-10: adroddiad  gorolwg AGGCC ar ei harolygiad cenedlaethol o amddiffyn oedolion; yr adroddiad  gan Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ar ei hadolygiad annibynnol o Mewn Dwylo Diogel; a’r adolygiad cenedlaethol o ddiogelu  gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Gyda’i gilydd, mae’r adroddiadau hyn yn dynodi bod angen gwneud rhagor i sicrhau ymwybyddiaeth o gam-drin a sut i ymateb yn effeithiol; rhoi sylw pellach i’r canlyniadau i ddioddefwyr posibl, unwaith y bydd yr argyfwng dechreuol drosodd; a sicrhau cyfiawnder i’r dioddefwyr hynny drwy erlyn.”

Ychwanegodd Ms Richardson:

Mae AGGCC wedi ymrwymo i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed, ac yn canolbwyntio ar annog gwelliannau a dyrchafu safon y gwasanaethau, er mwyn cael gwell canlyniadau ac ansawdd bywyd i’r bobl sy’n dibynnu ar ofal cymdeithasol. Yn y gwaith gwerthuso ac arolygu a wnawn gyda gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol,  bydd CSSIW yn parhau i ganolbwyntio ar wella’r asesu a’r asesiadau risg ar sail cynllunio, cofnodi a monitro effeithiol. Byddwn yn cydweithio’n ddiwyd â sefydliadau eraill ac yn dysgu oddi wrth yr arferion gorau. Er mwyn diogelu ac amddiffyn pobl rhag niwed, bydd rhaid i’r holl asiantaethau gydweithio’n effeithiol drwy gydol yr amser.

Nodiadau i Olygyddion

Ystyr cam-drin  yw troseddu yn erbyn hawliau dynol neu hawliau sifil unigolyn, gan unrhyw berson arall neu bersonau eraill. Diogelu pobl sy’n agored i niwed yw un o orchwylion sylfaenol yr asiantaethau statudol a’u partneriaid yn y maes gofal. Mae AGGCC wedi ymrwymo i gydweithio ag eraill i hyrwyddo gwasanaethau o safon uchel i amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed.

Cyhoeddiad blynyddol gan AGGCC yw Adroddiad Monitro Amddiffyn Oedolion Agored I Niwed (AOAN)  2009-2010, sy’n crynhoi’r data  am berfformiad awdurdodau lleol Cymru mewn cysylltiad â honiadau o gam-drin yn erbyn oedolion, digwyddiadau y cyfeirir atynt hefyd fel atgyfeiriadau.


 

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r data arwyddocaol a gasglwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ynglŷn â honiadau o gamdriniaeth yn erbyn oedolion.