Skip to content

Cyhoeddi adroddiad ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus cymru

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Cyhoeddi adroddiad ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus cymru

Heddiw [dydd Mawrth 5 Ebrill], cyhoeddodd Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, adroddiad ar ei ymchwiliad i gŵyn ynghylch gweithrediadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwnaed y gŵyn gan rieni merch ifanc â salwch angheuol a gafodd ofal yn Hosbis Plant ddechrau 2008 cyn marw gartref ym mis Awst 2008. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weithrediadau AGIC er mwyn ymateb i bryderon y rhieni ynghylch y gofal yr oedd eu merch yn ei gael yn yr hosbis. Roedd y gŵyn hefyd yn ymwneud â rôl a gweithrediadau AGGCC a Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth ymchwilio i gwynion dilynol ynghylch yr hosbis a gweithrediadau AGIC.

Roedd yr Ombwdsmon yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r gŵyn yn erbyn AGIC a Llywodraeth Cynulliad Cymru ond nid y gŵyn yn erbyn AGGCC. Yn benodol:

  • Cytunodd yr Ombwdsmon â'r gŵyn bod AGIC wedi methu â gofyn am farn y plentyn ar ei gofal ac nad oedd AGIC wedi ceisio sicrhau bod yr hosbis yn ystyried ei barn; 
  • Ni chytunodd yr Ombwdsmon â'r cwynion bod AGIC wedi rhoi cyngor anghywir i'r hosbis na bod AGIC wedi bygwth y byddai'r hosbis yn torri'r rheoliadau; fodd bynnag, cytunodd â'r elfen bod AGIC wedi rhoi mwy o ystyriaeth i fuddiannau staff yr hosbis na buddiannau'r plentyn â'i theulu; 
  • Cytunodd yr Ombwdsmon â'r gŵyn bod gwrthdaro buddiannau yn ymchwiliad AGIC; penodwyd adolygydd AGIC yn 'ymchwilydd annibynnol'; 
  • Cytunodd yr Ombwdsmon â'r gŵyn nad oedd adroddiad AGIC yn mynd i'r afael yn briodol â'r materion ynghylch caniatâd; 
  • Ni chytunodd yr Ombwdsmon â'r gŵyn bod AGIC wedi bygwth y byddai'r hosbis yn torri'r rheoliadau o beidio ag archwilio'r plentyn;  
  • Cytunodd yr Ombwdsmon â'r gŵyn nad oedd AGIC wedi delio â chwynion yn unol â Chod Ymarfer Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cwynion; 
  • Ni chytunodd yr Ombwdsmon â'r gŵyn ynghylch rôl a gweithrediadau AGGCC wrth ymchwilio i bryderon ynghylch AGIC a'r hosbis; 
  • Cytunodd yr Ombwdsmon â'r gŵyn ynghylch gallu cyfyngedig Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymyrryd yn gynharach er nad yw hyn yn rhan o God Ymarfer Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer cwynion.

Yn ei adroddiad nododd yr Ombwdsmon nad oedd ganddo ddigon o awdurdodaeth dros yr hosbis ac nad oedd unrhyw gorff annibynnol arall a allai gynnal ymchwiliad. Gofynnodd i Lywodraeth Cynulliad Cymru ystyried unrhyw gamau posibl iddo gael awdurdodaeth dros yr hosbis.

Mae'r Ombwdsmon hefyd wedi gwneud cyfres o argymhellion sy'n deillio o'i ymchwiliad i'r achos hwn ac mae AGIC a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'u derbyn.

Meddai llefarydd ar ran AGIC:

"Mae AGIC yn ymddiheuro'n ddiamod am unrhyw drallod ychwanegol a achoswyd i'r teulu wrth inni fynd i'r afael â'u cwynion ynghylch agweddau ar ofal eu merch."

"Rydyn ni'n derbyn canfyddiadau'r Ombwdsmon ac wedi gwella ein systemau ar gyfer ymchwilio i gwynion a delio â nhw er mwyn atal achosion tebyg rhag codi yn y dyfodol."

"Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn rhoi argymhellion yr Ombwdsmon ar waith yn llawn."

"Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu yn eu profedigaeth."

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru:

"Rydym yn derbyn y canfyddiad yn yr adroddiad y gallem fod wedi ymyrryd yn gynharach. Hoffem sicrhau'r teulu y byddwn yn rhoi'r argymhellion ar waith, gan gynnwys cyflwyno mesurau i ddelio â chwynion yn well."

Mae adroddiad yr Ombwdsmon ar gael ar ei wefan ac ar wefannau Llywodraeth Cynulliad Cymru, AGIC ac AGGCC.