Cefnogaeth dda i ddisgyblion agored i niwed yng Nghymru ond mae angen gweithredu pellach i ddiogelu disgyblion a staff.
Mae staff addysgu a staff cymorth mewn unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru’n gwneud gwaith anodd gyda disgyblion sydd ag ymddygiad heriol. At ei gilydd, maent wedi’u hyfforddi’n dda ac maent yn hyderus yn gweithio gyda disgyblion agored i niwed. Fodd bynnag, mae angen i’r rhan fwyaf o unedau cyfeirio disgyblion adolygu a gwella’u polisïau, eu systemau cynllunio disgyblion, eu gwaith asesu risg a’u rheolaeth ar gofnodion, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.
Ymwelodd arolygwyr o Estyn ac o Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) â saith o unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru a’u hawdurdodau lleol, ac arfarnu eu gwaith yn ôl arweiniad Llywodraeth Cymru ar strategaethau rheoli ymddygiad sy’n ddiogel ac yn effeithiol.
Fe wnaeth yr adroddiad, Arolwg o’r trefniadau ar gyfer lles a rheolaeth ymddygiad disgyblion mewn unedau cyfeirio disgyblion, ddarganfod fod gan y rhan fwyaf o unedau cyfeirio disgyblion bolisïau priodol ar waith, ond nad yw pob un ohonynt yn darparu digon o arweiniad defnyddiol i staff ar reoli ymddygiad heriol neu ar amddiffyn plant.
Mae chwech o’r saith uned cyfeirio disgyblion a gafodd ymweliad wedi mabwysiadu strategaethau rheoli ymddygiad sydd wedi’u hachredu gan Sefydliad Anableddau Dysgu Prydain. Fodd bynnag, roedd un uned cyfeirio disgyblion a gafodd ymweliad heb ddarparu hyfforddiant addas i’w staff.
At ei gilydd, mae disgyblion yn teimlo bod staff yn gofalu amdanynt ac yn eu parchu, ond mae rhai’n hawlio bod staff weithiau wedi defnyddio ataliaeth gorfforol i’w gorfodi nhw i symud i ardal ‘dawel’ pan fyddant wedi gwrthod mynd yn wirfoddol. Mae rhai rhieni a disgyblion hefyd yn mynegi pryderon ynghylch y ffordd y caiff y digwyddiadau hyn eu cofnodi a’u harchwilio.
Meddai llefarydd ar ran yr arolygiaethau:
Rydym yn gwerthfawrogi bod staff mewn unedau cyfeirio disgyblion yn gwneud gwaith anodd bob dydd a bod y rhan fwyaf o staff yn ei wneud yn dda. Ond mae nifer o feysydd y mae angen mynd i’r afael â nhw ar frys er mwyn diogelu staff a disgyblion a gwella’r gwasanaeth a gyflwynir ganddynt.
Y prif feysydd pryder yw diffyg safonau ac arweiniad clir ynghylch defnyddio ymyrraeth gorfforol gyfyngol, rheolaeth cofnodion ac asesu risg gwael, ac atebolrwydd gwael.
Dylai pob awdurdod lleol ac uned cyfeirio disgyblion ddarllen yr adroddiad hwn a rhoi’r argymhellion ar waith.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno nifer o argymhellion i awdurdodau lleol ac unedau cyfeirio disgyblion ymgymryd â gweithio gwell ar y cyd, mabwysiadu arfer orau, ac alinio’u polisïau’n llawn ag arweiniad Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
I gael mwy o wybodaeth www.estyn.gov.uk
