Amddiffyn A Diogelu Oedolion Yng Nghymru - Datganiad ar y cyd
Maent hefyd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar y materion allweddol a
chyffredin yn y ddau adroddiad.
Y ddau adroddiad a gyhoeddir heddiw yw:
- AGGCC – Arolygiad Cenedlaethol Amddiffyn Oedolion: Trosolwg
Cymru Gyfan - AGIC – Diogelu ac Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed yng Nghymru: adolygiad o’r trefniadau a sefydlwyd ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Mae’r cynnydd gyda darparu gwasanaethau i oedolion agored i niwed yng
Nghymru wedi bod yn galonogol ers lansio Mewn Dwylo Diogel yn y flwyddyn 2000. Heddiw, mae’r ddau adroddiad yn nodi enghreifftiau o ymarfer nodedig neu gadarnhaol, yn ogystal ag amlygu meysydd i’w gwella.
Cadarnhaodd AGGCC drwy’r arolygiad cenedlaethol, bwysigrwydd a phroffil cynyddol amddiffyn oedolion yng Nghymru, gydag ymroddiad cynyddol i hynny yn ofynnol gan awdurdodau lleol. Cafwyd enghreifftiau o arfer da ledled Cymru, ond mae angen i bawb wneud mwy i rannu’r hyn a ddysgir o’r rhain.
Dywedodd Prif Arolygydd AGGCC, Imelda Richardson:
Mae’r adroddiadau hyn yn cadarnhau bod ymarferwyr, rheolwyr ac arweinwyr yn gweithio’n galetach nag erioed ledled Cymru i amddiffyn oedolion agored i niwed rhag camdriniaeth. Yr her i bawb yw cyflwyno’r gwelliannau a argymhellir yn brydlon, yn ddiogel ac i safon uchel, gyda’r nod cyffredin o gynnal urddas a pharch y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau.
Mae adroddiad AGIC yn cyfeirio at benodi Arweinydd Amddiffyn Oedolion
Agored i Niwed (POVA) ym mhob sefydliad GIG. Mae hyn yn gam
arwyddocaol tuag at wella dealltwriaeth o’r agenda diogelu oedolion ar draws y GIG yng Nghymru, a sicrhau bod oedolion agored i niwed yn cael eu hamddiffyn yn briodol wrth ddefnyddio gwasanaethau’r GIG.
Mae’r adroddiad hefyd yn datgan bod ymwybyddiaeth o’r hyn a olygir wrth ‘gam-drin’ yn parhau i fod yn fater allweddol sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru. Mae’n egluro nad oes eto ddealltwriaeth gyffredin ar draws y GIG a’i bartneriaid ynghylch ystyr ‘diogelu’ yng nghyswllt oedolion, a phwy all fod yn agored i niwed.
Heddiw, dywedodd Peter Higson, Prif Weithredwr AGIG:
Mae gan y GIG rôl bwysig i’w chwarae o ran adnabod ac adrodd am gamdriniaeth, a sicrhau bod oedolion agored i niwed yn cael eu diogelu wrth dderbyn gofal iechyd. Mae’n hanfodol bod y GIG yn adeiladu ar y trefniadau presennol er mwyn i staff yn gyffredinol fod wedi’u hyfforddi ac yn hyderus wrth amddiffyn oedolion a all fod yn agored i niwed.
Prif ganfyddiadau AGGCC ac AGIC oedd:
- Yn ymarferol, does dim dealltwriaeth gyffredin o’r diffiniadau a’r
trothwyon ar gyfer gweithredu na chysondeb wrth eu rhoi ar waith. - Mae cyngor arbenigol ar amddiffyn oedolion yn bwysig. Mae
Cydgysylltwyr Ardal Amddiffyn Oedolion yn bwysig iawn o ran hybu
ymateb cadarnhaol. Erbyn hyn, mae pob awdurdod lleol wedi sefydlu swydd Cydgysylltydd. Mae’r ddau adroddiad yn awgrymu bod ymgysylltu â chredoau, agweddau a gwerthoedd staff cyn bwysiced ag unrhyw waith angenrheidiol ar brosesau a systemau o ran creu gwelliannau. - Nid yw asesu, asesu risg, gwneud penderfyniadau, cynllunio gofal a chofnodi yn digwydd i safon sy’n gyson dda.
- Mae arweiniad a gweithio mewn partneriaeth yn ganolog i amddiffyn a diogelu oedolion yn effeithiol, ond mae’r ddau adroddiad yn cytuno bod angen gwneud mwy.
- Mae sefydlu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer amddiffyn a diogelu
oedolion yn galw am arweiniad a rheolaeth perfformiad da. Nid yw’r trefniadau hyn wedi’u sefydlu’n gyson ar draws y gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd.
Ceir copi o'r AGIC adroddiadau llawn ynghyd a chanfyddiadau ac argymhellion ar wefan AGIC www.agic.org.uk
