Skip to content

Cyhoeddi Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Abertawe

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Cyhoeddi Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Abertawe

Arolygwyr yn canfod rhai gwelliannau ond gwasanaethau’n parhau i fod yn anghyson a’r awdurdod mewn sefyllfa ansicr i gynnal a gwella gwasanaethau.

Cyhoeddwyd yr adroddiad yn sgil arolygiad o wasanaethau cymdeithasol plant yr awdurdod, a gynlluniwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn Ionawr 2010. 

Diben yr arolygiad oedd sefydlu'r graddau i’r hyn roedd y gwasanaethau wedi gwella ers yr arolygiad diwethaf yn Rhagfyr 2008, yn sgil yr hyn y cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol Orchymyn  a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Adran 84 Deddf Plant 1989 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod wella’i wasanaethau i blant a phobl ifanc a sefydlu Bwrdd Ymyrraeth er mwyn cyflwyno her gadarn i’r awdurdod wella’i wasanaethau.

Gosodwyd yr awdurdod dan y protocol pryderon difrifol yn dilyn arolygiad cynharach yn Ebrill 2007.

Nododd y tîm adolygu amryw o gryfderau a gwelliannau a wnaeth yr awdurdod lleol dros y flwyddyn ddiwethaf. Ymhlith y rhain roedd:

  • gweledigaeth strategol glir ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, sydd â chefnogaeth gorfforaethol, a chefnogaeth wleidyddol, drawsbleidiol;
  • perchnogaeth dros, ac integreiddio’r agenda Gwasanaethau Plant a Theuluoedd o fewn y Tîm Rheoli Corfforaethol;
  • cynyddu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gyda gwell atebolrwydd drwy fframwaith rheoli risg a pherfformiad, ynghyd â chryfhau gwybodaeth ariannol syml i reolwyr;
  • herio effeithiol ac atebolrwydd Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i’r Tîm Rheoli Corfforaethol a’r Bwrdd Trosolwg a Chraffu newydd ar gyfer gwasanaethau Plant a Theuluoedd;
  • arweiniad cynyddol effeithiol ac atebol gan yr uwch dîm rheoli gwasanaethau cymdeithasol, gyda thîm rheoli Gwasanaethau Plant a Theuluoedd cryf, a gwell rhannu sgiliau a gweithio gyda gwasanaethau oedolion;
  • arweiniad clir a gweledol gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gyda mewnbwn gwybodus ac effeithiol gan y Cyfarwyddwr Arweiniol dros Blant a Phobl Ifanc;
  • gwybodaeth gadarn ar gyfer rheoli perfformiad, sy’n galluogi’r awdurdod lleol i gael gwell dealltwriaeth o’i fusnes craidd;
  • gweithlu sy’n ymroddedig iawn i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i blant agored i niwed, ac yn uchelgeisiol dros holl blant Abertawe;
  • peth gwaith uniongyrchol rhagorol â phlant, gyda pheth gwelliant yn ansawdd cyffredinol asesu, rheoli gofal a gwasanaethau amddiffyn plant;
  • cynnal ystod ac ansawdd gwasanaethau, gan gynnwys y rhai hynny sy’n hybu annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol.

Nododd y tîm arolygu hefyd welliannau hanfodol pellach y mae angen eu gwneud os yw iechyd a lles plant agored i niwed a’u rhieni a’u gofalwyr i gael eu diwallu’n gyson. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • adolygu a moderneiddio trefniadau mynediad yn rhan o’r cynlluniau ailstrwythuro arfaethedig: dylai hyn hefyd fynd i’r afael â meini prawf cymhwysedd a’r defnydd effeithiol ohonynt gan asiantaethau atgyfeirio ar gyfer plant ym mhob categori, gan gynnwys plant anabl;
  • rhoi mesurau recriwtio a chadw ar waith er mwyn denu staff newydd, gan fynd i’r afael â materion allweddol o ran capasiti, gan gynnwys trefniadau cynefino effeithiol a mynediad at hyfforddiant mwy arbenigol ar gyfer staff profiadol;
  • cyflwyno a sefydlu trefniadau newydd ar gyfer rheolaeth ariannol a chynaliadwyedd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cost-effeithiol yn cael eu darparu’n fwy effeithiol.
  • sefydlu’r defnydd o wybodaeth rheoli perfformiad ym mhob tîm ar draws y gwasanaethau cymdeithasol, a rhoi trefniadau sicrhau ansawdd effeithiol  ar waith ar bob lefel o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;
  • sicrhau cydgysylltydd amddiffyn plant amser llawn i sbarduno gwelliannau angenrheidiol er mwyn darparu gwasanaethau amddiffyn plant o ansawdd uchel a chyson;
  • parhau i ddefnyddio trefniadau cadarn er mwyn lleihau’r nifer o achosion heb eu dyrannu;
  • cysondeb o ran darparu asesiadau cychwynnol a chraidd effeithiol, amserol ac o ansawdd da;
  • cysondeb o ran amseroldeb ac ansawdd cynlluniau gofal, wrth eu hadolygu ac o ran y trefniadau rheoli gofal cysylltiedig;
  • sefydlu trefniadau effeithiol o ran goruchwylio ac arfarnu blynyddol ar gyfer yr holl staff;
  • cryfhau trefniadau partneriaeth ymhellach ar gyfer gwasanaethau rheng flaen;
  • datblygu trefniadau mwy effeithiol ar gyfer comisiynu a chontractio;
  • ymgysylltiad a chyfranogiad llawn yr holl staff wrth ddatblygu a gweithredu’r cynlluniau ailstrwythuro arfaethedig ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Daeth yr Arolygwyr i’r casgliad cyffredinol bod gwasanaethau’n parhau i fod yn anghyson a bod yr awdurdod yn parhau mewn sefyllfa ansicr i wella’i wasanaethau
 
Dywedodd y Prif Arolygydd, Imelda Richardson:

"Rwy’n croesawu’r gwelliannau sydd wedi’u gwneud i wasanaethau cymdeithasol plant yn Abertawe yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n amlwg bod yr awdurdod a’i staff wedi gweithio’n galed iawn i gyflawni’r gwelliannau yma. Er hynny, mae’r tîm adolygu wedi nodi gwelliannau pellach sydd angen eu gwneud ac mae’n bwysig bod y cyngor yn adeiladu ar y cynnydd a wnaeth er mwyn rhoi’r gwelliannau hyn ar waith yn ddi-oed."

Nodiadau:

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Heulwen Blackmore ar 029 2082 3531.

Dolenni perthnasol

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn o wasanaethau cymdeithasol i blant a phobl ifanc ym mis Ionawr 2010.