Skip to content

Adroddiad y Prif Arolygydd 2001 - 2002

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Adroddiad y Prif Arolygydd 2001 - 2002

Prif fyrdwn trosolwg y Prif Arolygydd eleni yw’r angen am welliannau pellach i’r gwasanaeth, a’r flaenoriaeth y mae’n rhaid ei rhoi i hynny.

Mae adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd ar gyfer 2001-02 yn nodi cam pellach o ran y cyfeiriad yr hoffai weld yr adroddiadau hyn yn ei gymryd. Hoffai eu gweld yn cael eu datblygu’n sylwebaeth sy’n gynyddol seiliedig ar dystiolaeth o berfformiad y gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru.


Mae’r adroddiad hefyd yn atgyfnerthu negeseuon adroddiadau blaenorol, sef yr angen i’r gwasanaethau cymdeithasol fynd i’r afael â heriau sylweddol, a chydio yn y cyfleoedd cysylltiedig â’r rhain, er mwyn cryfhau’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl sydd angen yr help a’r cymorth hwn.