Adroddiad y Prif Arolygydd 2002 - 2003
Mae'r gwaith a wneir gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru(AGCC) fel dilyniant i'r arolygiadau a’r cydadolygiadau yn dangos bod yr awdurdodau yn llwyddo i wneud rhai gwelliannau.
Mae llawer o waith i'w wneud, ond mae yna hefyd lawer o ymroddiad ac arferion da i adeiladu arnynt, o fewn yr awdurdodau lleol yn ogystal â’r amrediad o ddarparwyr sy'n cydweithio â hwy.
Mae'n bwysig nodi'r pethau a ddylai gael y flaenoriaeth uchaf: mae'r arolygiadau a'r gwerthusiad perfformiad, y canllawiau a baratoir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a chyhoeddiadau pwysig diweddar wedi gwneud llawer i amlygu'r pethau hynny. Waeth pa mor frawychus, ar adegau, y gall y dasg o geisio gwella'r gwasanaethau cymdeithasol ymddangos, mae yna bellach fframwaith, y gellir gyrru'r gwaith ymlaen yn effeithiol o'i fewn.
