Skip to content

Adroddiad y Prif Arolygydd 2003 - 2004

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Adroddiad y Prif Arolygydd 2003 - 2004

Mae’r gwaith a gyflawnwyd gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC) yn parhau i ddangos yr angen am welliant parhaus ym mherfformiad awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru.

Bu hon yn flwyddyn arbennig o arwyddocaol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru. Yn ystod y misoedd cyntaf, cyhoeddwyd 'Adroddiad Wanless', sef Adolygiad o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Yn ystod mis Mawrth 2004 cafodd y ddwy adran yn y Cynulliad sy’n delio ag iechyd a pholisi cymdeithasol eu dwyn ynghyd yn un adran, sef yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Arweiniodd cyhoeddi’r adroddiad i farwolaeth Victoria Climbié at waith sylweddol
gan awdurdodau’r gwasanaethau cymdeithasol ac Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC) i gadarnhau’r graddau yr oedd yr argymhellion a oedd wedi’u cynnwys ynddo yn cael eu hadlewyrchu yn y drefn reoli, mewn arferion ac yn y broses o ddarparu gwasanaethau yn y maes.