Adroddiad blynyddol 2007-2008
Mae’r adroddiad hwn yn cyfuno am y tro cyntaf mewn un adroddiad ein casgliadau yn dilyn edrych ar ofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Mae gofal cymdeithasol yn rhan bwysig o fywyd yng Nghymru, ond yn un nad yw’n cael digon o sylw. Mae 150,000 o bobl yn defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol bob blwyddyn. Mae £1.2 biliwn y flwyddyn yn cael ei wario ar y gwasanaethau hyn sy’n cyflogi tua 70,000 o bobl, ac maent yn hanfodol i les llawer o bobl ac yn ganolog i greu Cymru lwyddiannus.
Mae’r Prif Arolygydd yn falch o adrodd bod gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i wella. Mae llawer o bobl yn canmol y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio, gan ddweud bod y gwasanaethau wedi’u cynorthwyo i adfer a chynnal eu hannibyniaeth. Maent yn dweud y gwrandewir arnynt. Mae aelodau staff a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu wedi derbyn cydnabyddiaeth gyhoeddus am eu hansawdd.
Bydd disgwyliadau, demograffeg a’r amrywiaeth gynyddol o ffyrdd y mae’n bosibl cynorthwyo pobl yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain yn ysgogi newidiadau sylweddol ym maes gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol ac yn gwneud gofal cymdeithasol yn fwy canolog fyth i fywydau pobl yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae amrywiadau annerbyniol mewn perfformiad yn parhau i fodoli ac mae angen mynd i’r afael â’r rhain. Gwelliant parhaus yw’r her o hyd felly.
