Cartrefi gofal i oedolion 2007-2008
Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am ein casgliadau yn dilyn edrych ar gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru.
Mae’r sector yn ymateb i anghenion newidiol defnyddwyr gwasanaeth yng Nghymru. Yn gyffredinol, mae tystiolaeth o welliant parhaus mewn sawl maes craidd sydd wedi peri pryder yn y gorffennol.
Mae tystiolaeth o ymroddiad parhaus gan ddarparwyr i wella safonau. Er mwyn sicrhau lefel gyson o wasanaethau priodol ledled Cymru, mae angen cynnal y gwelliannau a nodwyd a’u datblygu ymhellach. Nodwyd y meysydd pryder canlynol yn yr adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd ac maent yn dal i fod angen sylw.
Mae nifer y cwynion yr ymchwiliwyd iddynt gan AGGCC yn gyson â 2006-07 yn gyffredinol. Bu cynnydd eleni yn nifer yr atgyfeiriadau amddiffyn oedolion er bod AGGCC wedi cymryd rhan mewn llai o ymchwiliadau.
