Gwasanaethau gofal dydd i blant 2007-2008
Gwelwyd cynnydd net o 41 gwasanaeth gan greu cynnydd net o 1,714 o leoedd gofal plant ledled Cymru.
Bu cynnydd yn nifer y gwasanaethau a’r lleoedd sydd ar gael gan warchodwyr plant, gofal dydd llawn, gofal y tu allan i’r ysgol a chynlluniau mynediad agored. Er y bu gostyngiad bychan iawn yn nifer y gwasanaethau gofal sesiynol, bu cynnydd cyffredinol yn nifer y lleoedd sydd ar gael. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y lleoliadau a’r lleoedd crèche, fel y llynedd.
Mae 93% o’r lleoedd sydd ar gael gyda gwarchodwyr plant ac mewn gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol a gofal y tu allan i’r ysgol. Dyma’r gwasanaethau sydd fwyaf tebygol o gael eu defnyddio gan riant sy’n chwilio am ‘hyblygrwydd a dewis wrth gydbwyso ymrwymiadau teuluol, gwaith ac eraill’ yn unol â Strategaeth Gofal Plant Llywodraeth Cynulliad Cymru ‘Ar gyfer Plant y mae Gofal’ 2005.
Yn gyffredinol, mae ansawdd gwasanaethau gofal dydd wedi gwella eto, a gwelwyd newidiadau cadarnhaol mewn nifer o feysydd a fu’n arafach i newid yn y gorffennol.
Mae darparwyr wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu’r gofynion rheoleiddio ychwanegol a gyflwynwyd yn 2007. Mae bron i bob darparwr wedi ymateb yn foddhaol i’r broses newydd o asesu gwasanaethau. Mae angen gwella adolygiadau sicrhau ansawdd, prosesau cwynion ac ymatebion i hysbysiadau cydymffurfiad.
Bu gostyngiad pellach eleni yn nifer y cwynion a’r pryderon amddiffyn plant yn ymwneud â gwasanaethau gofal dydd a ddaeth at sylw AGGCC.
