Asiantaethau gofal cartref 2007-2008
Bu gostyngiad bychan yn nifer yr asiantaethau gofal cartref eleni. Fodd bynnag, cydbwyswyd hyn gan gynnydd yn nifer yr asiantaethau gofal cartref sy’n darparu mwy na 200 awr o ofal personol a fyddai’n awgrymu bod mwy o ymweliadau gofal cartref yn cael eu cynnal.
Yn gyffredinol, bu gwelliannau sylweddol i ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ym mhob rhan o’r sector.
Mae darparwyr wedi ymateb yn gadarnhaol ac maent mewn sefyllfa dda i fodloni’r gofynion newydd sy’n ymwneud â systemau sicrhau ansawdd.
Mae materion sy’n ymwneud â’r gweithlu’n cynnig darlun mwy cymysg. Mae agweddau craidd ar arferion recriwtio megis archwiliadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol, hanes cyflogaeth a chamau dilynol i gael tystlythyrau, wedi gwella.
Gwelwyd cynnydd yn nifer y cwynion yr ymdriniodd AGGCC â hwy eleni a gostyngiad yn nifer yr ymchwiliadau amddiffyn oedolion/plant y cymerodd AGGCC ran ynddynt yn annibynnol neu mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.
