Skip to content

Asiantaethau gofal cartref 2007-2008

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Asiantaethau gofal cartref 2007-2008

Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am ein casgliadau yn dilyn edrych ar asiantaethau gofal cartref yng Nghymru.

Bu gostyngiad bychan yn nifer yr asiantaethau gofal cartref eleni. Fodd bynnag, cydbwyswyd hyn gan gynnydd yn nifer yr asiantaethau gofal cartref sy’n darparu mwy na 200 awr o ofal personol a fyddai’n awgrymu bod mwy o ymweliadau gofal cartref yn cael eu cynnal.

Yn gyffredinol, bu gwelliannau sylweddol i ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ym mhob rhan o’r sector.

Mae darparwyr wedi ymateb yn gadarnhaol ac maent mewn sefyllfa dda i fodloni’r gofynion newydd sy’n ymwneud â systemau sicrhau ansawdd.

Mae materion sy’n ymwneud â’r gweithlu’n cynnig darlun mwy cymysg. Mae agweddau craidd ar arferion recriwtio megis archwiliadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol, hanes cyflogaeth a chamau dilynol i gael tystlythyrau, wedi gwella.

Gwelwyd cynnydd yn nifer y cwynion yr ymdriniodd AGGCC â hwy eleni a gostyngiad yn nifer yr ymchwiliadau amddiffyn oedolion/plant y cymerodd AGGCC ran ynddynt yn annibynnol neu mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.