Gwasanaethau Maethu 2007-2008
Hon yw’r bedwaredd flwyddyn i ni adrodd ar wasanaethau maethu yng Nghymru. Mae gofal maeth da yn hynod bwysig i ddiwallu anghenion plant sydd angen derbyn gofal gan awdurdodau lleol. Mae nifer y gwasanaethau maethu a chyfansoddiad y sector yn parhau i fod yr un fath yn gyffredinol, gyda chyfanswm o 45 gwasanaeth maethu yng Nghymru, a 23 ohonynt yn y sector annibynnol/gwirfoddol. Mae gan bob awdurdod lleol ei wasanaeth maethu ei hun. Lleolir hyd at un o bob tri phlentyn sy’n derbyn gofal gyda gofalwyr maeth o asiantaeth annibynnol. Mae lleoliadau o’r fath yn tueddu i gael eu trefnu wrth i’r angen ddod i’r amlwg yn hytrach nag fel dull comisiynu a gynllunnir. Fodd bynnag, mae gan lawer o awdurdodau lleol gytundebau lefel gwasanaeth gyda sefydliadau gwirfoddol i ddarparu gofal seibiant neu fyrdymor.
Yn gyffredinol, yn yr un modd ag y gwelwyd yn ystod y blynyddoedd cynt, mae gwasanaethau maethu yng Nghymru’n bodloni’r rhan fwyaf o’r rheoliadau. Mae’r darlun cyffredinol yn dangos bod gwasanaethau maethu yng Nghymru’n cynnal safonau ar lefel debyg i flynyddoedd blaenorol, gyda gwelliant cymedrol mewn rhai meysydd a gwaethygiad mewn eraill. Mae angen gwelliannau o hyd mewn rhannau allweddol o’r gwasanaeth, yn enwedig yn y ffordd y caiff lleoliadau eu trefnu neu eu goruchwylio, a chyfateb lleoliadau i anghenion penodol plant. Mae diffyg gofalwyr sydd ar gael yn arwain yn rhy aml at leoli plant mewn amgylchiadau sydd ymhell o fod yn ddelfrydol. Mae gan y panel maethu swyddogaeth bwysig iawn i’w chyflawni o ran goruchwylio a sicrhau safonau’r gwasanaeth.
