Cartrefi Gofal i Oedolion 2008-2009
Mae cartrefi gofal yn darparu gofal a llety i oedolion iau ac oedolion hyˆn. Mae maint a darpariaeth y cartrefi yn amrywio: gallant ofalu am bobl ag anabledd dysgu neu gorfforol, anghenion iechyd meddwl, nam ar y synhwyrau a phobl hyˆn. Fe’u cofrestrir ar sail datganiad o ddiben sy’n gallu cynnwys darparu gofal nyrsio, a gallant fod yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Ar y cyfan, ceir tystiolaeth o welliant parhaus mewn sawl maes craidd:
- mae ansawdd cynllunio gofal wedi gwella;
- ystyrir dymuniadau a theimladau defnyddwyr gwasanaeth a cheir tystiolaeth i ddangos bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau ynglyˆn â’u gofal;
- hyrwyddir preifatrwydd ac urddas defnyddwyr gwasanaeth yn y cartref;
- mae safon glanweithdra a chynnal a chadw’r safleoedd wedi gwella rhywfaint;
- mae arferion recriwtio, gan gynnwys archwiliadau cyn-cyflogi, wedi gwella;
- mae darparwyr yn cymryd y cyfrifoldeb am adolygu ansawdd y gofal a ddarperir;
- mae risgiau i ddefnyddwyr gwasanaeth yn cael eu hasesu a’u rheoli’n briodol.
Er bod yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai gwelliannau o ran staffio cartrefi gofal yng Nghymru, cyfrifoldeb y darparwyr yw sicrhau bod aelodau’r staff wedi’u hyfforddi ac yn gymwys i fodloni anghenion cymhleth a newidiol defnyddwyr gwasanaeth. Mae angen rhoi sylw pellach i’r meysydd allweddol canlynol:
- cefnogaeth a hyfforddiant ar gyfer staff;
- lefelau staffio;
- goruchwylio staff;
- rhaid i gartrefi gofal barhau i flaenoriaethu rheoli meddyginiaeth yn briodol, er bod y sefyllfa wedi gwella rhyw ychydig.
Mae nifer y cwynion a ystyriwyd gan AGGCC ychydig yn is nag yn 2007-08 ac mae hyn yn cyd-fynd ag adroddiadau gan y rhanbarthau sy’n nodi bod mwy o gwynion yn cael eu datrys yn foddhaol yn y man lle y darperir y gwasanaeth.
Bu gostyngiad eleni yn nifer y materion amddiffyn oedolion a atgyfeiriwyd i AGGCC yn ogystal â chyfraniad dilynol AGGCC at ymchwiliadau. Gallai hyn fod yn rhannol gysylltiedig â gwell dealltwriaeth o swyddogaeth AGGCC o ran amddiffyn oedolion.
Mae gwaith AGGCC ym maes amddiffyn oedolion yn canolbwyntio ar achosion
o dor-rheoliadau neu dor-rheoliadau posib.
