Skip to content

Cartrefi Gofal i Oedolion 2008-2009

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Cartrefi Gofal i Oedolion 2008-2009

Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am ein canfyddiadau wrth edrych ar gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru.

Mae cartrefi gofal yn darparu gofal a llety i oedolion iau ac oedolion hyˆn. Mae maint a  darpariaeth y cartrefi yn amrywio: gallant ofalu am bobl ag anabledd dysgu neu gorfforol, anghenion iechyd meddwl, nam ar y synhwyrau a phobl hyˆn. Fe’u cofrestrir ar sail datganiad o  ddiben sy’n gallu cynnwys darparu gofal nyrsio, a gallant fod yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.

Ar y cyfan, ceir tystiolaeth o welliant parhaus mewn sawl maes craidd:

  • mae ansawdd cynllunio gofal wedi gwella;
  • ystyrir dymuniadau a theimladau defnyddwyr gwasanaeth a cheir tystiolaeth i ddangos bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau ynglyˆn â’u gofal;
  • hyrwyddir preifatrwydd ac urddas defnyddwyr gwasanaeth yn y cartref;
  • mae safon glanweithdra a chynnal a chadw’r safleoedd wedi gwella rhywfaint;
  • mae arferion recriwtio, gan gynnwys archwiliadau cyn-cyflogi, wedi gwella;
  • mae darparwyr yn cymryd y cyfrifoldeb am adolygu ansawdd y gofal a ddarperir;
  • mae risgiau i ddefnyddwyr gwasanaeth yn cael eu hasesu a’u rheoli’n briodol.

Er bod yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai gwelliannau o ran staffio cartrefi gofal yng Nghymru, cyfrifoldeb y darparwyr yw sicrhau bod aelodau’r staff wedi’u hyfforddi ac yn gymwys i fodloni anghenion cymhleth a newidiol defnyddwyr gwasanaeth. Mae angen rhoi sylw pellach i’r meysydd allweddol canlynol:

  • cefnogaeth a hyfforddiant ar gyfer staff;
  • lefelau staffio;
  • goruchwylio staff;
  • rhaid i gartrefi gofal barhau i flaenoriaethu rheoli meddyginiaeth yn briodol, er bod y  sefyllfa wedi gwella rhyw ychydig.

Mae nifer y cwynion a ystyriwyd gan AGGCC ychydig yn is nag yn 2007-08 ac mae hyn yn cyd-fynd ag adroddiadau gan y rhanbarthau sy’n nodi bod mwy o gwynion yn cael eu datrys yn foddhaol yn y man lle y darperir y gwasanaeth.

Bu gostyngiad eleni yn nifer y materion amddiffyn oedolion a atgyfeiriwyd i AGGCC yn ogystal â chyfraniad dilynol AGGCC at ymchwiliadau. Gallai hyn fod yn rhannol gysylltiedig â gwell dealltwriaeth o swyddogaeth AGGCC o ran amddiffyn oedolion.

Mae gwaith AGGCC ym maes amddiffyn oedolion yn canolbwyntio ar achosion
o dor-rheoliadau neu dor-rheoliadau posib.