Skip to content

Gwasanaethau Gofal Dydd i Blant 2008-2009

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Gwasanaethau Gofal Dydd i Blant 2008-2009

Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am ein canfyddiadau wrth edrych ar wasanaethau gofal dydd i blant yng Nghymru.

Mae gofal dydd i blant yn cael ei gofrestru o fewn y categorïau gwasanaeth canlynol:

  • Gwarchodwyr plant
  • Gofal dydd llawn
  • Gofal dydd sesiynol
  • Gofal y tu allan i’r ysgol
  • Gwasanaethau crèche
  • Chwarae mynediad agored

Mae pob maes gwasanaeth yn gweithredu yn unol â’r un rheoliadau ac mae gan bob un ei gyfres ei hun o safonau gofynnol cenedlaethol.

Bu cynnydd net bychan o 14 gwasanaeth sydd wedi creu cynnydd net o 1,260 o leoedd gofal plant ar draws Cymru. Mae 54 y cant o’r lleoedd ym maes gwarchod plant.

Bu cynnydd cyffredinol yn y nifer o wasanaethau gofal plant ac yn y nifer o leoedd sydd ar gael ym meysydd gwarchod, gofal dydd llawn, gofal y tu allan i’r ysgol a gofal sesiynol. Ni  fu  unrhyw newid yn y nifer o gynlluniau mynediad agored er y bu cynnydd cyffredinol yn y  nifer o leoedd sydd ar gael. Bu colled cyffredinol o 20 y cant mewn gwasanaethau crèche a’r  lleoedd ynddynt. Ni fu newid o ran gwasanaethau eraill.

Yn gyffredinol mae ansawdd gwasanaethau gofal dydd wedi parhau i wella:

  • mae ansawdd y gofal y mae plant yn ei gael yn gyffredinol dda, o ran yr amgylchedd a  ddarperir a’u gofal corfforol;
  • mae trefniadau darparwyr gwasanaethau o ran amddiffyn plant wedi gwella ac ychydig iawn o bryder sydd ynglyˆn â hyn ym mhob gwasanaeth;
  • er bod trefniadau recriwtio a rheoli staff wedi gwella’n sylweddol mewn rhai gwasanaethau, mae lle i wneud mwy o welliannau;
  • mae rheoli risg hefyd wedi gwella mewn rhai gwasanaethau ond yn gyffredinol mae’n parhau i fod yn faes sydd angen ei ddatblygu.

Mae darparwyr gwasanaethau wedi gwneud cynnydd da o ran rhoi’r gofynion rheoleiddio ychwanegol a gyflwynwyd yn 2007 ar waith. Mae’r holl ddarparwyr bron wedi ymateb yn foddhaol i’r broses newydd o asesu gwasanaethau. Yn ogystal, gwelwyd gwelliant calonogol mewn adolygiadau sicrhau ansawdd, prosesau cwyno ac ymateb i hysbysiadau cydymffurfiad.

Ychydig iawn o gwynion a phryderon yn ymwneud ag amddiffyn plant mewn gwasanaethau gofal dydd a gafodd eu dwyn i sylw AGGCC eleni.