Cynlluniau Lleoli Oedolion 2008-2009
Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am ein canfyddiadau wrth edrych ar gynlluniau lleoli oedolion yng Nghymru.
Eleni, gall AGGCC roi darlun cadarnhaol ar y cyfan o’r maes rheoleiddio hwn. Mae darparwyr wedi gwneud cynnydd o ran y materion a godwyd yn adroddiad cyhoeddedig y llynedd:
- mae 12 cynllun lleoli oedolion wedi eu cofrestru gydag AGGCC, un yn fwy na’r llynedd;
- mae ansawdd y gofal mewn cynlluniau lleoli oedolion wedi gwella yn gyffredinol ers y llynedd gyda llai o ofynion yn cael eu gwneud;
- ni nodwyd unrhyw ofynion ar gyfer hanner y cynlluniau eleni. Mae hyn yn gadarnhaol iawn;
- mae dogfennau polisi allweddol, megis y canllaw lleoli oedolion a’r datganiad o ddiben, wedi eu sefydlu ym mhob cynllun namyn un;
- mae barn a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth yn helpu i wella a datblygu gwasanaethau.
O ran datblygiadau yn y dyfodol, mae’n ofynnol rhoi mwy o sylw i ddau faes, sef:
- mae angen i’r cynlluniau sicrhau y darperir hyfforddiant priodol i ofalwyr lleoli oedolion er mwyn bodloni anghenion unigol;
- mae angen sicrhau bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael yn rhan o’r broses arolygu.
Ni wnaed unrhyw ymchwiliadau amddiffyn oedolion gan AGGCC. Un gwˆyn yn unig yr ymchwiliwyd iddi gan AGGCC.
