Skip to content

Cynlluniau Lleoli Oedolion 2008-2009

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Cynlluniau Lleoli Oedolion 2008-2009

Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am ein canfyddiadau wrth edrych ar gynlluniau lleoli oedolion yng Nghymru.

Eleni, gall AGGCC roi darlun cadarnhaol ar y cyfan o’r maes rheoleiddio hwn. Mae darparwyr wedi gwneud cynnydd o ran y materion a godwyd yn adroddiad cyhoeddedig y llynedd:

  • mae 12 cynllun lleoli oedolion wedi eu cofrestru gydag AGGCC, un yn fwy na’r llynedd;
  • mae ansawdd y gofal mewn cynlluniau lleoli oedolion wedi gwella yn gyffredinol ers y  llynedd gyda llai o ofynion yn cael eu gwneud;
  • ni nodwyd unrhyw ofynion ar gyfer hanner y cynlluniau eleni. Mae hyn yn gadarnhaol  iawn;
  • mae dogfennau polisi allweddol, megis y canllaw lleoli oedolion a’r datganiad o ddiben, wedi eu sefydlu ym mhob cynllun namyn un;
  • mae barn a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth yn helpu i wella a datblygu gwasanaethau.

O ran datblygiadau yn y dyfodol, mae’n ofynnol rhoi mwy o sylw i ddau faes, sef:

  • mae angen i’r cynlluniau sicrhau y darperir hyfforddiant priodol i ofalwyr lleoli oedolion er  mwyn bodloni anghenion unigol;
  • mae angen sicrhau bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael yn rhan o’r broses arolygu.

Ni wnaed unrhyw ymchwiliadau amddiffyn oedolion gan AGGCC. Un gwˆyn yn unig yr ymchwiliwyd iddi gan AGGCC.