Ysgolion a Cholegau 2008-2009
Mae AGGCC yn gyfrifol am adolygu’r ddarpariaeth lles mewn ysgolion preswyl, ysgolion arbennig preswyl a cholegau addysg bellach yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae 1,678 o leoedd preswyl yn yr ysgolion hyn. Mae hyn yn ostyngiad bychan o’i gymharu â’r cylch arolygu diwethaf. Mae’r ddarpariaeth addysg yn yr ysgolion hyn yn ddarostyngedig i arolygiad gan Estyn. Mae AGGCC yn arolygu’r ysgolion a’r colegau yn erbyn safonau gofynnol cenedlaethol penodol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i asesu pa un a ydynt yn diogelu ac yn hybu lles y disgyblion sy’n lletya yno yn foddhaol. Mae AGGCC wedi parhau i weithio gydag Estyn pan fo’n bosibl, a hynny’n ymwneud yn bennaf â rhannu gwybodaeth. Mae AGGCC yn gweithio’n ymarferol gyda’r holl arolygiaethau eraill i ddatblygu fframwaith amlasiantaethol fel sail i arolygu a fydd yn cefnogi arolygiadau cymesur sydd wedi’u targedu.
Mae’r cylch arolygu hwn wedi gweld sawl gwelliant calonogol o ran ansawdd y gofal a ddarperir gan y sector. Mae’r rhain yn cynnwys:
- datganiadau o egwyddorion ac arfer;
- diogelwch rhag tân;
- cynllunio lles ar gyfer y plant hynny sydd ei angen;
- perthynas y staff â’r plant - gwelwyd brwdfrydedd, ymrwymiad ac ymroddiad y staff yn aml yn y sector drwyddo draw;
- cymorth ar gyfer plant unigol;
- darparu ystod eang o weithgareddau hamdden;
- cyswllt y plant â’u teuluoedd/gofalwyr.
Fodd bynnag mae rhai meysydd allweddol sy’n dal i fod angen sylw penodol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant;
- prosesau ar gyfer recriwtio staff, yn ogystal â chymorth parhaus ar eu cyfer;
- arweinyddiaeth a monitro gan berchnogion a llywodraethwyr ysgolion;
- arferion recriwtio ar gyfer y staff, gwirfoddolwyr a gwarchodwyr addysgol;
- safon ac addurniad llety’r myfyrwyr.
Mae adrodd am bryderon a chwynion sy’n ymwneud ag amddiffyn plant yn parhau i fod ar lefel isel.
