Dod o hyd i wasanaeth gofal neu adroddiad arolygu
Rydym yn rheoleiddio’r blynyddoedd cynnar a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn rhan o’r gwaith rheoleiddio, rydym yn arolygu gwasanaethau a chyhoeddir ein canfyddiadau ar ddull Adroddiadau Arolygu. Gallwch chwilio trwy ein cyfeiriadur yn ôl:
- Y math o wasanaeth
- Yr ardal lle mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu – un ai am god post penodol, neu am ranbarth AGGCC neu yn ôl ardal Awdurdod Lleol
- Gallwch hefyd chwilio am wybodaeth am wasanaeth penodol os ydych yn gwybod ei enw
Er mwyn diogelu preifatrwydd defnyddwyr gwasanaeth ac unigolion sy’n agored i niwed nid ydym yn dangos uchafswm y lleoedd sydd ar gael na chyfeiriadau llawn cartrefi gofal i oedolion sydd â llai na 6 o leoedd. Ar gyfer gwarchodwyr plant a chartrefi plant dim ond awgrym o’r lleoliad a’r rhif ffôn yr ydym ni’n ei roi.
Gallwch hefyd lawrlwytho adroddiadau arolygu sydd ar gael yn gyhoeddus trwy glicio ar enw’r lleoliad. Mae’r adroddiad diweddaraf am wasanaeth ar gael yma. Os bydd AGGCC yn ymchwilio i gŵyn yn ystod y flwyddyn yn dilyn cyhoeddi adroddiad, bydd adroddiad o’r ymchwiliad hwnnw wedi ei gynnwys ar ddiwedd yr adroddiad arolygu blynyddol.
Nid yw adroddiadau arolygu ar gyfer gwarchodwyr plant, cartrefi plant a chanolfannau teuluol preswyl ar gael ar y wefan ond maent ar gael gan y swyddfeydd rhanbarthol. Mae copïau o adroddiadau ar gyfer gwarchodwyr plant hefyd ar gael gan y Gwasanaethau Gwybodaeth Plant (CIS) lleol. Mae manylion cyswllt ar dudalen dolenni’r wefan hon. Mae adroddiadau arolygu ar gael yn y Gymraeg a/neu’r Saesneg yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Gellir cael copïau o adroddiadau ar gyfer lleoliadau cofrestredig nad ydynt ar gael ar y wefan trwy gysylltu â’ch swyddfa AGGCC agosaf.
Dolen allanol:
