Skip to content

Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllunion ar gyfer Dyfodol

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllunion ar gyfer Dyfodol

Mae'r canllawiau drafft hyn ar gyfer aelodau o awdurdodau lleol, cyrff
rheoli asiantaethau sy'n bartneriaid, rheolwyr awdurdodau lleol corfforaethol a
rheolwyr gwasanaethau cymdeithasol a staff, yn arbennig y rhai sy'n ymwneud
chynllunio rheoli perfformiad. Maent yn nodi trefniadau ar gyfer datblygu
Gwasanaethau Plant a Chynlluniau Gofal Cymdeithasol a threfnau perthynol.
Maent yn darparu'r sail ar gyfer ymagwedd gyffredin at gynllunio ar gyfer
gwasanaethau cymdeithasol a roddir yng nghyd-destun Gwerth Gorau a gofynion
eraill ar gyfer cynllunio oddi mewn i'r awdurdod lleol a chydag asiantaethau eraill
ee gwasanaethau iechyd, yr heddlu etc. Maent yn darparu set graidd o ganllawiau
ar gyfer cynlluniau a ddylai wasanaethu ystod lawn y gofynion. Argymhellir y dylai
Awdurdodau wneud fel a ganlyn:

¥ Nodi'r cyfeiriad strategol i wasanaethau dros gyfnodau o hyd at bum
mlynedd ym mhrif gynlluniau'r Awdurdod ar gyfer Gwasanaethau Plant a
Gofal Cymdeithasol.
¥ Darparu adolygiadau blynyddol sy'n adrodd ar gynnydd ac sy'n nodi
cynlluniau busnes a pherfformiad mwy buan.