Cynllunio ar gyfer Hyfforddi a Datblygu Staff ar draws y Sector Gofal Cymdeithasol
Mae gofal cymdeithasol yn un o’r meysydd gwasanaeth pwysicaf yng Nghymru ac mae’n rhan hanfodol o ofal di-dor. Er hynny, mae parhau i darparu gwasanaethau o ansawdd yn barhaus yn dibynnu ar fodolaeth gweithlu o ansawdd.
Mae’r dasg o sicrhau gweithlu o ansawdd o’r fath ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn cael sylw mewn agenda ar gyfer newid, sy’n seiliedig ar yr amcanion a bennir yn y Papur Gwyn ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ‘Adeiladu ar gyfer y Dyfodol’ sy’n cynnwys:
- Datblygu strategaeth a chanllawiau mewn perthynas ag adnoddau dynol, a chryfhau prosesau cynllunio adnoddau dynol yn y sector
- Datblygu a gweithredu System Anghenion Gwybodaeth Gweithlu
- Datblygu Cynllun Rhagolwg Sgiliau ar gyfer y sector gofal cymdeithasol
- Newid pwyslais y Rhaglen Cynnal Hyfforddiant (RhCH)
Argymhellodd y Grwˆp Gorchwyl a Gorffen ar Faterion Gweithlu mewn Gofal Cymdeithasol y dylai’r Cynulliad ‘rhoi ystyriaeth i gyfraniad RhCH wrth ei gynorthwyo i gyflawni ei nod pennaf o godi safonau yn y gweithlu.
