Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol Personol: Adroddiad ar Hynt y Rhaglen 2005-2006
Yn 2005 - 2006, cymeradwyodd Llywodraeth Cynulliad Cymru grantiau gwerth cyfanswm o £6,250,000 o dan Raglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP), sef cyfraniad o 70% at gyfanswm gwariant cymeradwy o £8,928,570, a defnyddiwyd 99.9% o'r grant terfynol a gymeradwywyd.
Rheolwyd y rhaglen hon gan y cyn Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC). Ar 1 Ebrill 2007 unwyd Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC) ac Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC) a’u swyddogaethau a’u pwerau perthnasol i ffurfio Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).
