Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Personol 2005-2006
Mae'r cylchlythyr hwn yn disgrifio'r trefniadau ar gyfer Rhaglen Datblygu'r Gweithlu
Gofal Cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol personol. Mae'n cyhoeddi'r
dyraniadau grant mynegol, ac yn gwahodd awdurdodau lleol i ymgeisio am y grant
erbyn 31 Mawrth 2005. Darllenwch y cylchlythyr hwn i gyd yn ofalus. Dylech ddarllen
y cylchlythyr ochr yn ochr â “Cynllunio ar gyfer Hyfforddi a Datblygu Staff ar draws y
Sector Gofal Cymdeithasol ” (arweiniad i helpu awdurdodau lleol Cymru a’u
partneriaid i wneud trefniadau effeithiol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yn eu
hardal o ran hyfforddi a datblygu staff), a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ym mis Gorffennaf 2003. Disgwyliwn weld
ceisiadau grant yn amlinellu’n glir y trefniadau ar gyfer Partneriaethau Rhaglen
Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ac yn cynnwys cynlluniau datblygu a
hyfforddi staff clir ar gyfer y sector cyfan.