Skip to content

Codi Safonau: Y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Radd mewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Codi Safonau: Y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Radd mewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru

Cymdeithasol Grŵp Gorchwyl ar Faterion sy’n ymwneud â’r Gweithlu mewn
Gofal Cymdeithasol i roi fframwaith strategol iddi er mwyn datblygu materion
sy’n ymwneud â’r gweithlu yn y sector. Un o’r themâu allweddol a ystyriwyd
gan y grŵp oedd diwygio hyfforddiant gwaith cymdeithasol.

O ganlyniad i’r argymhellion a wnaed gan y grŵp, cyhoeddodd y Gweinidog ar
20fed Mehefin 2001 y dylai gwaith ddechrau yng Nghymru i fodelu mathau
newydd o hyfforddiant gwaith cymdeithasol:

• Dylai hyfforddiant fod ar lefel raddedig o leiaf;
• Rhaid i gyflogwyr chwarae rhan ganolog yn y broses hyfforddi, a
dylai’r hyfforddiant a ddarperir fod yn seiliedig ar ragweld anghenion
o ran cyflogaeth yn y dyfodol;
• Rhaid i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gwaith
cymdeithasol lywio’r broses o ddatblygu canlyniadau dysgu ar gyfer
myfyrwyr a gofynion y cyrsiau newydd;
• Dylid cael llwybrau hyblyg i gymwysterau;
• Dylid atgyfnerthu’r cwricwlwm a’i gyflawni’n fwy cyson yn seiliedig ar
y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol;
• Rhaid atgyfnerthu’r broses o ddysgu ymarfer a rhaid i fyfyrwyr allu
integreiddio theori a chanfyddiadau ymchwil yn well â’u hymarfer;
• Rhaid adolygu cyllid myfyrwyr;
• Mae’n hanfodol sicrhau y gellir trosglwyddo’r cymwysterau ledled y
DU;
• Rhaid datblygu’r Cymhwyster newydd mewn partneriaeth â’r
rhanddeiliaid allweddol, ac mae’n rhaid iddi fod yn addas i’w ddiben
yng Nghymru.