Skip to content

Adolygiad o Drefniadau Awdurdodau Lleol yng Nghymru ar gyfer maethau preifat 2008

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Adolygiad o Drefniadau Awdurdodau Lleol yng Nghymru ar gyfer maethau preifat 2008

AGGCC adolygiad o’r trefniadau maethu preifat ledled Cymru yn 2008.

Roedd yr adolygiad yn cynnwys dwy ran:

  • arolwg wedi’i gwblhau gan holl awdurdodau lleol Cymru;
  • ymweliadau gwaith maes â chwe awdurdod lleol, sef Blaenau Gwent, Casnewydd, Ceredigion, Conwy, Powys ac Ynys Môn a oedd yn cynrychioli amrywiaeth ddaearyddol a chymysgedd o awdurdodau gwledig a threfol.

Nod yr adolygiad oedd cyflwyno gwybodaeth ynglŷn â’r modd mae awdurdodau lleol yn cyflawni’u cyfrifoldebau maethu preifat yng Nghymru, a sut maen nhw’n defnyddio’r ddeddfwriaeth berthnasol yn fwy na dim, sef:

  • Deddf Plant 1989
  • Gorchymyn Diwygio Deddf Plant 1989 (a wnaed gan Ddeddf Plant 2004);
  • Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006;
  • Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, 2006. Maethu Preifat.

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu casgliadau’r adolygiad.