Skip to content

Adolygu Rhaglen a Phartneriaeth Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP)

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Adolygu Rhaglen a Phartneriaeth Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP)

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi penderfynu ei bod yn bryd erbyn hyn i adolygu i ba raddau y mae’r rhaglen SCWD wedi bod yn bodloni’r amcanion a osodwyd gan y ddogfen ganllaw.

Mae monitro blynyddol yn awgrymu er y gwnaed cryn dipyn o gynnydd o ran datblygu partneriaeth effeithiol ac ehangu mynediad at hyfforddiant a nifer y staff sy’n ymgymryd â hyfforddiant, nid yw hyn bob amser wedi cynnwys cyfranogiad llawn ar draws y sector.  

Cytunwyd bod angen gwaith pellach i adolygu effaith y SCWDP; defnyddir canlyniadau’r adolygiad i ystyried datblygu’r rhaglen a’i hamcanion yn y dyfodol, a’r ffordd orau iddi fodloni’r goblygiadau ar gyfer hyfforddi a datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol yn unol â’r polisïau a’r blaenoriaethau sy’n newid yng Nghymru.