Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol Personol: Adroddiad ar Hynt y Rhaglen 2007-2008
Hwn yw'r pumed adroddiad bglynyddol ar y Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP) ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol Personol yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r modd y mae’r grant SCWDP wedi cefnogi hyfforddiant a datblygiad staff ar draws yr holl sector gofal cymdeithasol, o ran presenoldeb mewn digwyddiadau hyfforddi a’r cymwysterau a enillwyd. Mae hefyd yn amlinellu gweithgareddau a chanlyniadau’r rhaglen ar gyfer 2007-2008 a’r buddsoddiad a wnaeth awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod.
Y prif weithgareddau a chanlyniadau ar gyfer blwyddyn 2007-2008 oedd:
- Enillwyd dros 4,750 o gymwysterau penodol,
- Dros 122,700 presenoldeb mewn digwyddiadau wedi’u hariannu gan SCWDP,
- 26,774 presenoldeb mewn digwyddiadau hyfforddi gan staff cyflogwyr gofal cymdeithasol eraill ac 8,186 presenoldeb gan staff asiantaethau eraill,
- 34,960 presenoldeb gan staff sydd heb fod wedi’u cyflogi’n uniongyrchol gan wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.
