Skip to content

Dadansoddiad Rhagarweiniol o Ddementia yng Nghymru

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Dadansoddiad Rhagarweiniol o Ddementia yng Nghymru

Dadansoddiad Rhagarweiniol o Ddementia yng Nghymru – Adroddiad a luniwyd gan AGGCC

Yn 2009, cynhaliwyd dadansoddiad rhagarweiniol ynglŷn â’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd am bobl sydd â dementia yng Nghymru a’r ddarpariaeth ar eu cyfer.


Y nod oedd casglu gwybodaeth ffeithiol gychwynnol trwy holi pobl sydd â dementia, eu gofalwyr a rhai gweithwyr proffesiynol arbenigol, yn ogystal â thrwy gynnal ymchwil ddesg, i gyfrannu at adolygiad ehangach posibl o wasanaethau dementia yn y dyfodol. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys safbwyntiau pobl sydd â dementia a hefyd yn ystyried comisiynu fel ffrwd waith bosibl yn y dyfodol.


Mae’r adroddiad hwn yn dechrau gyda gwybodaeth a gafwyd gan bobl sydd â dementia a’u gofalwyr. Yna mae’n symud ymlaen i ddefnyddio gwybodaeth arall a gafwyd yn ystod y broses ddadansoddi ragarweiniol ac yn defnyddio’r cyfan i edrych ar y goblygiadau posibl ar gyfer yr adolygiad o’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol a chomisiynu gwasanaethau yn y dyfodol. Defnyddir yr adroddiad yn bennaf i gyfrannu at ail gam yr adolygiad o’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn.