Skip to content

Strategaeth Ymgysylltu - Dogfen Ymgynghori

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Strategaeth Ymgysylltu - Dogfen Ymgynghori

Rydym yn dymuno clywed oddi wrthych ynglŷn â sut yr ydych eisiau bod yn rhan o waith AGGCC.

Mae’r papur ymgynghori hwn yn nodi rhai syniadau ynglŷn â sut y gallwn gynyddu cyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, a phobl sydd â diddordeb mewn gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol, ond fe fydd gennych eich syniadau eich hun yr hoffem glywed amdanynt.

Rydym yn gweithio gyda Chyfranogaeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn cael cysylltiad uniongyrchol â phobl yn ystod y chwe mis nesaf o’r ymgynghoriad. Bydd mwy o wybodaeth am gyfleoedd i ymgysylltu â ni ar gael ar ein gwefan yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae gennym gopïau caled o’r ddogfen, yn ogystal â chopïau mewn fformatau eraill, sef Braille, CD sain, a hawdd ei ddarllen. Cysylltwch â ni os hoffech gael copïau:

Jenny Perkins
AGGCC
Swyddfeydd y Llwodraeth
Rhydycar
Merthyr Tudfil
CF48 1UZ
0300 062 8800
cssiw@wales.gsi.gov.uk

Diogelu data

Noder: Sut y defnyddir y sylwadau a’r wybodaeth y byddwch yn eu rhoi i ni

Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â hwy. Gallai gael ei weld hefyd gan aelodau eraill o staff Llywodraeth Cymru er mwyn eu helpu i gynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Efallai y byddwn hefyd yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Mae hyn yn helpu i ddangos bod yr ymgynghoriad wedi ei gynnal mewn modd priodol. Os nad ydych yn dymuno cael cyhoeddi eich enw na’ch cyfeiriad, ysgrifennwch atom yn nodi hynny pan fyddwch yn anfon eich ymateb, ac wedyn, byddwn yn sicrhau nad oes modd darllen y wybodaeth honno.  

Mae’n bosibl y gallai enwau neu gyfeiriadau yr ydym yn eu trin yn y modd hwn ddal i gael eu cyhoeddi’n ddiweddarach, ond nid ydym yn meddwl y byddai hynny’n digwydd yn aml iawn. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth a gedwir gan lawer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth nad yw wedi ei chyhoeddi. Fodd bynnag, mae’r gyfraith hefyd yn caniatáu i ni wrthod rhyddhau gwybodaeth dan rai amgylchiadau. Os bydd unrhyw un yn gofyn am gael gweld gwybodaeth yr ydym wedi gwrthod ei rhyddhau, bydd yn rhaid i ni benderfynu pa un ai i’w rhyddhau ai peidio. Os oes rhywun wedi gofyn i’w enw a’i gyfeiriad beidio â chael eu cyhoeddi, mae honno’n ffaith bwysig y byddem yn ei hystyried. Fodd bynnag, gallai fod rhesymau pwysig weithiau pam y byddem yn gorfod datgelu enw a chyfeiriad rhywun, hyd yn oed os yw wedi gofyn i’r wybodaeth honno beidio â chael ei chyhoeddi. Byddem yn cysylltu â’r unigolyn ac yn gofyn am ei farn cyn i ni wneud penderfyniad terfynol i ddatgelu’r wybodaeth.