Skip to content

Arolygiad o wasanaethau ar gyfer pobl sydd a nam corfforol neu nam ar eu synhwyrau yng Nghyngor Sir Ynys Mon

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Arolygiad o wasanaethau ar gyfer pobl sydd a nam corfforol neu nam ar eu synhwyrau yng Nghyngor Sir Ynys Mon

Gwnaethpwyd yr arolygiad gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC) yn Ionawr 2002 ar sail safonau a ddatblygwyd gan yr Arolygiaeth.
Yr arolygiad hwn yw’r un olaf mewn cyfres o chwech yng Nghymru sy’n edrych ar amrediad ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol i oedolion sydd ag anabledd corfforol a/neu nam ar eu synhwyrau. Mae’n edrych pa mor dda mae gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol yn cwrdd ag anghenion pobl sydd â nam corfforol neu nam ar eu synhwyrau ac yn ystyried a yw’r Cyngor mewn sefyllfa i allu cynnal, gwella a datblygu gwasanaethau o ansawdd da. Gwnaethpwyd yr arolygiad gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn Ionawr 2002 ar sail safonau a ddatblygwyd gan yr Arolygiaeth.

Yn ystod yr arolygiad, bu’r arolygwyr yn siarad gyda Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, uwch reolwyr, rheolwyr rheng ganol a staff gwaith cymdeithasol; aelod o’r Cabinet; defnyddwyr gwasanaethau, grwpiau defnyddwyr a gofalwyr; cynrychiolwyr o’r Awdurdod Iechyd, yr Ymddiriedolaeth Iechyd, a mudiadau
gwirfoddol; a chynrychiolwyr adrannau eraill y Cyngor gan gynnwys Tai a Rheoli’r Amgylchedd. Edrychodd yr arolygwyr hefyd ar nifer o wahanol ddogfennau, gan gynnwys sampl o ffeiliau achos.