Arolygiad o'r gwasanaethau ar gyfer plant mewn angen sy'n byw gartref ym mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cynhaliwyd yr arolygiad hwn ar gais y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dilyn cyhoeddi’r cydadolygiad o wasanaethau cymdeithasol ym Mlaenau Gwent.
Yn dilyn cydadolygiad o wasanaethau cymdeithasol ym Mlaenau Gwent ym Mai 2003, codwyd pryderon dybryd ynghylch cyflwr gwasanaethau plant ym Mlaenau Gwent. Nid oedd yr awdurdod yn llwyddo i gyflawni ei rwymedigaethau statudol i sgrinio, asesu ac adolygu’r holl blant sydd mewn perygl ac i sicrhau bod y rheini sy’n derbyn gofal yn cael gwasanaeth a reolir yn dda ac ansawdd bywyd da. Ar adeg yr arolygiad hwn, nid oedd yr awdurdod eto’n rhoi gwasanaeth da i’r plant a oedd angen ei wasanaethau, ac roedd y rhagolygon ar gyfer gwella yn parhau i fod yn wael.
