Adolygiad o wasanaethau Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae'r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau a dyfarniadau'r adolygiad.
Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru sy'n cyflawni swyddogaethau arolygu gwasanaethau cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 a deddfwriaeth arall. Pwrpas yr adolygiad yw asesu'n wrthrychol pa mor dda y mae pobl leol yn cael eu gwasanaethu a chyfrannu at wella gwasanaethau. Cafodd yr adolygiad hwn o wasanaethau oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei wneud rhwng mis Mai a diwedd mis Medi 2004. Roedd y tîm adolygu yn cynnwys tri arolygydd - Julia Phillipson, Kevin Barker, Jill Lewis - a'r asesydd lleyg, Jenny Cook.
