Adolygiad â chanolbwynt penodol iddo o wasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae’n amlinellu’r dystiolaeth bwysicaf a gasglwyd drwy gydol yr Adolygiad, gan nodi cryfderau ac arfer da yn ogystal â meysydd i’w datblygu. Mae’n ceisio rhoi darlun cyffredinol o’r ffordd y mae’r Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn y meysydd a archwiliwyd gan y Tîm Adolygu. Nid cyflwyno dadansoddiad manwl o bob maes gwaith yw bwriad yr adroddiad hwn.
Gofynnwyd i’r Cyngor gynhyrchu cynllun gweithredu mewn ymateb i’r adroddiad hwn a disgwylir iddo hefyd ystyried canfyddiadau’r adroddiad wrth ddatblygu eu cynlluniau busnes a gwella. Bydd AGGCC a Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal gwaith pellach fel rhan o’u rhaglenni gwaith arferol i werthuso’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu hyn a’r canlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.
