Skip to content

Arolygiad o’r gwasanaethau cymdeithasol i blant a phobl ifanc yn Ninas a Sir Caerdydd

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Arolygiad o’r gwasanaethau cymdeithasol i blant a phobl ifanc yn Ninas a Sir Caerdydd

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio canfyddiadau arolygiad o wasanaethau i blant a phobl ifanc yn Ninas a Sir Caerdydd.
Yn dilyn cyhoeddi’r cydadolygiad o wasanaethau cymdeithasol yng Nghaerdydd ym mis Medi 2002, codwyd pryderon dwys yn sgil canfod fod plant yng Nghaerdydd yn cael eu hamlygu i “risgiau annerbyniol” oherwydd nad oedd yr awdurdod yn llwyddo i gyflawni ei rwymedigaethau statudol i sgrinio, asesu ac adolygu’r holl blant sydd mewn perygl a’r rhai sy’n derbyn gofal. Ar adeg yr arolygiad hwn, nid oedd yr awdurdod eto’n rhoi gwasanaeth da i’r plant a oedd angen ei wasanaethau, ac roedd y rhagolygon ar gyfer gwella yn parhau i fod yn ansicr.