Arolygiad o Drefniadau Mynediad Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Gwasanaethau Plant
Adroddiad Arolygu Trefniadau Mynediad Cyngor Sir Ceredigion
Cynhaliwyd yr arolygiad hwn gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) fel sy’n ofynnol dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Penderfynwyd ar ganolbwynt yr arolygiad drwy ddadansoddi’r dystiolaeth a ddarparwyd ar gyfer Fframwaith Adolygu Blynyddol y Cyngor (FABC).
