Skip to content

Arolygiad o'r gwasanaethau i bobl a nam corfforol neu nam ar eu synhwyrau yng Nghyngor Sir Caerfyrddin

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Arolygiad o'r gwasanaethau i bobl a nam corfforol neu nam ar eu synhwyrau yng Nghyngor Sir Caerfyrddin

Cynhaliwyd yr arolygiad fel rhan o raglen arolygu flynyddol Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC).
Mae'r adroddiad yn disgrifio canfyddiadau arolygiad o wasanaethau Adran Gofal Cymdeithasol a Thai Cyngor Sir Caerfyrddin i bobl sydd ag anabledd corfforol neu synhwyraidd. Cynhaliwyd yr arolygiad fel rhan o raglen arolygu flynyddol Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC). Hwn yw'r trydydd mewn cyfres o arolygiadau a gwnaed y gwaith maes yn ystod Gorffennaf 2001.

Seiliwyd yr arolygiad ar safonau a ddatblygwyd gan yr Arolygiaeth. Fel rhan ohono ystyried gwybodaeth cyn-arolygu a ddarparwyd gan yr Adran Gofal Cymdeithasol a Thai a chyfwelwyd defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, cynrychiolwyr o'r sector gwirfoddol yn lleol a sawl fforwm o bobl sydd â nam corfforol neu synhwyraidd. Cynhaliwyd cyfweliadau hefyd gyda staff o wasanaethau tai a chymdeithasol yr awdurdod lleol, y Swyddog Cydraddoldeb, Swyddog Mynediad a'r aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y gwasanaethau cymdeithasol. Mae gan yr adran feddylfryd sy'n croesawu arolygu.