Skip to content

Adolygiad o wasanaethau i blant Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Adolygiad o wasanaethau i blant Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau a dyfarniadau’r adolygiad.
Mae Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn cynnal swyddogaethau arolygu gwasanaethau cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymuned a Safonau) 2003 a deddfwriaethau eraill. Diben yr adolygiad yw rhoi asesiad gwrthrychol o ansawdd y gwasanaeth i bobl leol a chyfrannu at wella gwasanaethau ymhellach.

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn o wasanaethau plant yng Nghonwy rhwng mis Awst 2004 a Rhagfyr 2004. Y tîm adolygu oedd Norman Host (prif arolygydd), Sheila Booth (arolygydd), John Llewellyn Thomas (arolygydd) ac Alice Jones (aseswraig leyg).