Arolygu rheolaeth ac arferion gwasanaethau plant yng nghyngor Sir y Fflint
Cynhaliwyd yr arolygiad yn rhan o gyfres o arolygiadau a fu'n edrych ar wasanaethau i blant mewn angen yng nghyngor Sir y Fflint.
Canfu'r arolygwyr fod gwelliannau sylweddol yn digwydd o ran cyflwyno'r gwasanaethau. Gallai'r arolygwyr fod yn rhesymol fodlon y byddai mwyafrif y bobl a ddeuai, neu a atgyfeiriwyd, at y gwasanaethau plant yn derbyn safonau gwasanaeth sylfaenol da. Yr oedd angen sylw pellach ar rai o'r meysydd gwaith, plant dan anabledd yn fwyaf arbennig.
