Skip to content

Arolygiad o’r gwasanaethau i blant anabl ym Merthyr

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Arolygiad o’r gwasanaethau i blant anabl ym Merthyr

Cynhaliwyd yr arolygiad ym mis Mai 2003 ac mae'n seiliedig ar safonau a ddatblygwyd gan AGCC.
Dyma'r arolygiad cyntaf mewn cyfres o bump ar draws Cymru sy'n archwilio natur, amrywiaeth ac ansawdd y gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol i blant anabl. Mae'n ystyried i ba raddau y mae'r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau deddfwriaethol a rheoliadol o ran darparu gwasanaethau, a pha mor effeithiol yw'r trefniadau ar gyfer cydweithio ag asiantaethau partner. Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC) sy'n arwain y gyfres o arolygiadau, ar y cyd ag Estyn a'r Comisiwn Gwella Iechyd (CHI).