Adolygiad o wasanaethau oedolion yng Nghyngor Sir Fynwy
Cafodd yr adolygiad hwn o wasanaethau oedolion yng Nghyngor Sir Fynwy ei wneud rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2005.
Mae i'r adolygiad ddwy brif ran. Mae'r cam cyntaf, sy'n gyffredin i'r holl awdurdodau, yn cynnwys ystyried gwybodaeth ymlaen llaw, arolwg o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar ffurf holiadur, sampl o achosion ar ffeil, a chyfarfodydd gydag uwch reolwyr, cynrychiolwyr y partner-sefydliadau a grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Yn ddiweddarach yn ystod y broses, bydd yr arolygwyr yn edrych yn fanylach ar rai meysydd neu themâu penodol yng ngoleuni'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y cam cyntaf. Yn yr adolygiad hwn, hoeliwyd sylw'r cam manwl ar:
- Beth mae pobl ei eisiau a'i angen a sut mae hynny'n cael ei adlewyrchu mewn asesiadau, cynlluniau gofal a chanlyniadau? Edrychodd y tîm adolygu ar arfer mewn dau o'r timau gofal cymunedol
- Amddiffyn oedolion agored i niwed: bu'r tîm yn olrhain tri achos enghreifftiol o'r adeg pan gawsant eu hatgyfeirio gyntaf o dan weithdrefnau amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed hyd at y canlyniadau ar gyfer yr unigolion hynny
- Ystod ac ansawdd y gwasanaethau: bu'r tîm yn edrych ar arferion y gwasanaethau gofal cartref, gan gynnwys gofal yn y cartref a therapi galwedigaethol, a bu hefyd yn edrych ar ystod eang o wasanaethau gofal cymdeithasol a gomisiynwyd neu a ddarparwyd yn uniongyrchol.
- Cyfranogiad defnyddwyr a gofalwyr, cyfathrebu a gweithredu polisïau: talodd y tîm sylw arbennig i'r cydadolygiad o wasanaethau dydd yr awdurdod a bu'n ystyried y cynlluniau ar gyfer gweithredu'r canfyddiadau
- Cynllunio a chomisiynu gwasanaethau ar gyfer pobl iau a phobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl.
- Datblygu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn.
Mae'r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau a dyfarniadau'r adolygiad. Gellir cael mwy o wybodaeth am y dulliau a ddefnyddiwyd a'r dystiolaeth a gafwyd os dymunir hynny.
